top of page
AdobeStock_140346608.jpeg
Newyddion

Ein Cylchlythyr

Ydych chi am ddarganfod y datblygiadau diweddaraf am Raglen lles Gogledd Powys? Os ydych, beth am lawrthwyo ein cylchlythyr?

Issue 5

Summer 2023

Gwell gennych dderbyn hwn dros e-bost?

Rhif 5 

Haf  2023

Os hoffech chi dderbyn rhifynnau o'n cylchlythyr yn y dyfodol dros e-bost, yna ewch draw i'n tudalen gofrestru.

Issue 4

Winter 22/23

Issue 3

Summer 2022       

Rhif 4 

Y Gaeaf 22/23

Rhif 3          Haf 2022

Issue 2

Spring 2022  

Rhif 2      Gwanwyn 2022

Issue 1 Autumn 2021   

Rhif 1                Hydref 2021

Ein datganiadau newyddion

Penodi Ymgynghorwyr i gefnogi campws Iechyd a Lles y Drenewydd

Ebrill 14, 2023

Mae cynlluniau ar gyfer campws iechyd a lles aml-asiantaeth yng nghanol y Drenewydd wedi cymryd cam sylweddol ymlaen yn sgil penodi ymgynghorwyr adeiladu o Gaerdydd i gefnogi’r prosiect pwysig hwn, sy’n cael ei arwain ar y cyd gan Gyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

 

Mae Mott MacDonald wedi bod yn rhan o dirwedd Cymru ers dros 60 mlynedd gyda swyddfeydd yng Nghaerdydd, Casnewydd, Caerfyrddin a Bae Colwyn, ac maen nhw wedi cael eu comisiynu i arwain y gwaith cychwynnol ar y campws hwn ar Stryd y Parc ynghyd â chaffael partner yn y gadwyn gyflewni i gwblhau’r brosiect.

 

Canmoliaeth i wirfoddolwyr clwb ieuenctid Machynlleth

Chwefror 20, 2023

Mae Powys Ynghyd wedi talu teyrnged i waith gwirfoddolwyr ym Machynlleth sydd wedi sefydlu clwb ieuenctid llewyrchus yn Athrofa Owain Glyndŵr y dref.

​

Mae Jen Hughes, swyddog Powys Ynghyd Machynlleth, wedi canmol pobl leol, gan gynnwys disgyblion y chweched dosbarth lleol am eu hymdrechion. Grŵp i gefnogi pobl ifanc a'u teuluoedd yw Powys Ynghyd, ac mae'n cael ei ariannu gan Raglen Les Gogledd Powys.

​

Eglurodd Jen: "Llynedd fe wnes i weithio gyda gweithiwr ieuenctid ysgolion Cyngor Sir Powys, Elen Chick, i siarad gyda phobl ifanc y dref am ba fath o ddarpariaeth clwb ieuenctid yr hoffen nhw ei weld ym Machynlleth."

​

(Mwy)

​

 

Kian_and_Hanna.jpg
Powys Gyda’n Gilydd yn helpu pobl ifanc ddathlu dros y Nadolig

Ionawr 26, 2023

Cafodd ddisgyblion presennol a chyn-ddisgyblion Ysgol Cedewain yn Y Drenewydd arddangosiad arbennig o'r clasur Nadolig 'Elf' yng Nghanolfan Regent y Drenewydd, gyda diolch i grŵp a sefydlwyd i gefnogi plant a'u teuluoedd yng ngogledd Powys, y rhieni - a'r sinema ei hun wrth gwrs.

Cafodd y daith i’r sinema ei threfnu ar gyfer 20 o bobl ifanc gan Bowys Gyda’n Gilydd, sy’n cael ei ariannu gan Raglen lles Gogledd Powys, gyda chymorth gan rieni.

Mae gan Bowys gyda’n Gilydd staff sy’n gweithio yn y Trallwng, y Drenewydd, Llanidloes a Machynlleth a oedd yn gyfrifol am nifer o brosiectau dros yr Å´yl.

​

(Mwy)

​

 

Meddyg Teulu o’r Trallwng
yn ymuno â’r tîm

Hydref 18, 2022

Claire Hirons (5) crop.jpg

Mae Meddyg Teulu o’r Trallwng wedi ymuno â thîm Rhaglen Lles Gogledd Powys i gynorthwyo â’r gwaith o drawsnewid iechyd a lles yn yr ardal.

​

Mae Dr Claire Hirons yn bartner meddyg teulu yn y Trallwng ac mae hi bellach yn gweithio gyda'r tîm fel Arweinydd Clinigol Meddyg Teulu yn rhan amser. Ei rôl fydd cysylltu â meddygon teulu sy'n gweithio ar draws gogledd Powys er mwyn sicrhau bod eu harbenigedd yn cael ei fwydo i gynlluniau'r rhaglen.

​

“Rydw i wedi cael y pleser o weithio yn Y Trallwng ers 2 flynedd ac rwy'n teimlo fy mod bellach wedi gwreiddio fy hun yng Ngogledd Powys," meddai Dr Hirons.

(Mwy)

​

 

Benthyciadau iPad am ddim i bobl Powys

October 13, 2022

Mae pobl ym Mhowys yn cael cynnig cyfle i fenthyg iPad am ddim, diolch i gefnogaeth Cronfa’r Economi Gylchol Llywodraeth Cymru.

​

Mae'r iPads ar gael i unrhyw aelod o Wasanaeth Llyfrgell y cyngor – gallwch ymuno am ddim. Gall unrhyw un sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio ym Mhowys ymuno â'r llyfrgell.

​

Mae Rhaglen Lles Gogledd Powys hefyd yn cefnogi'r cynllun gan ei fod yn cyd-fynd gydag un o'i nodau - gan alluogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau iechyd rhithwir (h.y cymryd rhan mewn galwad fideo gydag arbenigwr iechyd sydd mewn lleoliad gwahanol.) (Mwy)

 

Trefnwyr yr Å´yl Garedig yn diolch i bawb a gyfrannodd

Cynghorwyr a Bwrdd Iechyd i ystyried cynlluniau ar gyfer campws iechyd a lles newydd yng nghanol y Drenewydd
Chwefror 23, 2022

Rhaglen Les Gogledd Powys yn ariannu clinigau gofal llygaid newydd

Mawrth 17, 2022

Mae cleifion gofal llygaid sydd angen sganiau Tomograffeg Cydlyniaeth Optegol yng Ngogledd Powys bellach yn gallu eu cael yn y sir diolch i gyllid oddi wrth Raglen Les Gogledd Powys. (Mwy)

0F8A1480crop.jpg
  • Facebook
  • Twitter
  • YouTube

Mae trefnwyr gŵyl y Drenewydd i hybu caredigrwydd o fewn y gymuned wedi diolch i'r rhai a gefnogodd y digwyddiad a gynhaliwyd fis diwethaf.

Cynhaliwyd yr Å´yl Garedig ar Dir Neuadd y Dref ddydd Sadwrn Medi 17eg a daeth cannoedd o bobl allan i fwynhau bwyd a diod am ddim yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau am ddim.

​

Cafodd y digwyddiad ei ariannu gan Raglen Lles gogledd Powys (partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys), Powys Gyda’n Gilydd, a Chyngor Tref Y Drenewydd a Llanllwchaearn.

​

Cafodd y Cynghorydd Sir dros ddwyrain y Drenewydd, Joy Jones y syniad gwreiddiol ar gyfer y digwyddiad yn gynharach eleni. "Roeddwn i wrth fy modd gyda'r digwyddiad; roedd yn union fel roeddwn i wedi'i ddychmygu. Roedd pawb mor hyfryd - y staff, yr ymwelwyr a’r y bobl yn cynrychioli mudiadau. Roedd yr awyrgylch mor hyfryd ac rydyn ni wedi cael adborth hyfryd gan bobl oedd yno. Roedd hi'n ddiwrnod mor dda a gobeithiwn ei bod wedi helpu lles pobl ar adeg pan mae cyllidebau cartrefi'n cael eu gwasgu."

​

Ychwanegodd y Cyng Jones; "Rydw i mor falch gyda'r hyn roedden ni'n gallu gwneud gyda thîm bach mewn amser mor fyr. Os yw hi'n bosib, byddwn i wrth fy modd yn ei gwneud eto."

​

Gyda marwolaeth Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II yn gynharach yn y mis, cynhaliwyd dwy funud o dawelwch – dan arweiniad y Parchedig Nia Wyn Morris ar ddechrau'r digwyddiad a rhoddwyd cyfle i ymwelwyr arwyddo llyfr o gydymdeimlad. Gwnaeth y trefnwyr, dan arweiniad Jo Hughes a Donna Jenkins o Bowys Gyda'n Gilydd, newid munud olaf hefyd i deitl y digwyddiad i atgyfnerthu ei ethos.

​

Ychwanegodd Jo Hughes: "Gan fod yr ŵyl yn rhad ac am ddim does gennym ni ddim ffigwr union ar gyfer nifer y bobl ddaeth i'r digwyddiad ond rydyn ni'n meddwl bod dros 2,000 o bobl wedi dod draw i fwynhau’r diwrnod. Clywsom lawer gan rieni a ddywedodd eu bod yn mwynhau'r gweithgareddau am ddim yn fawr ac yn gwerthfawrogi'r bwyd am ddim oedd ar gael i bawb. Rydym wrth ein bodd gyda hynny ond mae'n rhaid i mi ddweud na allen ni fod wedi gwneud hynny heb gefnogaeth y gymuned leol a busnesau lleol. Maen nhw wedi bod yn anhygoel."

​

Eglurodd fod nifer o fusnesau wedi cyfrannu bwyd a diod am ddim neu eitemau ar gyfer y raffl. Fe roddodd eraill eu hamser i helpu neu fenthyg offer i dîm y digwyddiad.

​

Cafodd ymwelwyr â'r safle eu diddanu yn y babell gerddoriaeth hefyd gan y canwr a'r cyfansoddwr lleol Tommy Mills, Charlotte Woodford o Lifebulb, Cathy Beech gan Angel Voice Singing School yn ogystal â pherfformiadau DJ o Creative Stuff Y Drenewydd. Bu cerddorion lleol hefyd yn cymryd rhan mewn sesiwn Meic Agored yn y babell.

​

Y sefydliadau a roddodd eitemau ar gyfer y raffl am ddim oedd:

• Café Glitz

• Parkers

• 7evern Island

• Infinity Care

• Cultivate

• Glo Tanning

• Silver Fish

• Argos

• Bloomers

• Ponthafren

• Iceland

• The Fish King

• Hilltop Honey

• Rainbows end

• Spar

• 23 Social

• Country Living Antiques

• H.L Owen

• Jacks Cafe

• Mollies

• Room 2

• Wetherspoons – The Black Boy

• Olivers

• Greggs

• Tesco

• Costa

• Evans Cafe

• Morgans

• Café Express

• Newtown IT Solutions

• U-strike

• Break out

• The Lantern

• Severn Park Café (bus station)

• Dial a ride

• Sidoli’s

• W H Smith

• Boots

• The Works

• Morrisons

• Newtown Carnival Committee

Roedd y sefydliad a busnesau canlynol yn bresennol ar y diwrnod:

• Agor Drenewydd

• Rhaglen Lles Gogledd Powys

• Santander

• Oriel Davies

• Colourburst Jewellery

• Newtown Seventh Day Adventist church

• Hafren Dyfrdwy

• Creative Stuff Newtown

• Stwff and Things

• CFfI Maldwyn

• Ponthafren

• Hughes Architects

• Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Powys

• Gwasanaeth Llyfrgell Cyngor Sir Powys (o lyfrgell y Drenewydd)

• Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Cyngor Sir Powys

• Chwaraeon Powys

• Gweithredu dros Blant

• Ysgol y Goedwig Branching Out

• Sustrans

• PAVO

• Ambiwlans Sant Ioan -Y Drenewydd

• Canolfan Argyfwng Teulu Sir Drefaldwyn

• Hummingbird

• Queen of the Cranx

• Heddlu Dyfed Powys

• Clwb Pêl-rwyd Maldwyn

• N-able

• Newtown Parkrun

• Newtown Carnival Trust

• Grŵp Colegau NPTC

• Ymddiriedolaeth Bwyd a Thir Canolbarth Cymru

• PAVO

• Credu

• Hilltop Honey

• Canolfan Integredig i Deuluoedd y Drenewydd

• Period Dignity

• Freedom Leisure

• Newtown Theatre Co

• JPs Hog Roast

• ABC Polish Shop

• Clwb Rygbi’r Drenewydd

• Sefydliad y Merched

• Tiger Blossom Facepainting

• Meg Tudor Hair Brading

• Ice Cream Van Wales

• Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

• Morrisons

• Clwb Tennis Y Drenewydd

• Clwb Hoci’r Drenewydd

• Mid-Wales Bouncy Castles

• Caffi Cymunedol y Drenewydd

• Dechrau'n Deg

 

Hydref 7, 2022

Croesawu cymeradwyaeth achos busnes ar gyfer campws iechyd a lles
Mawrth 16, 2022

Mae campws iechyd a lles o’r radd flaenaf yn y Drenewydd wedi cymryd cam arwyddocaol ymlaen yn dilyn cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru.

 

Cyflwynwyd Achos Busnes  Rhaglen (ABRh) yn gynharach I Lywodraeth Cymru gan Raglen Lles Gogledd Powys oedd yn amlinellu'r buddion o ddod â gwasanaethau iechyd a lles ynghÅ·d ar un safle drws nesaf I Stryd Y Parc yn y Drenewydd.  Cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn y Senedd ddoe (dydd Mawrth 15 Mawrth) ei fod yn cymeradwyo’r achos busnes hwn, gan nodi bod hwn yn garreg filltir bwysig i’r prosiect. (Mwy)

Cynghorwyr a Bwrdd Iechyd i ystyried cynlluniau ar gyfer campws iechyd a lles newydd yng nghanol y Drenewydd
Chwefror 23, 2022

Bydd Cabinet Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ystyried drafft o’r Achos Amlinellol Strategol (SOC) ar gyfer y campws iechyd a lles amlasiantaethol yng nghanol y Drenewydd.

 

Mae Rhaglen Lles Gogledd Powys (NPWB) yn rhaglen o Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys, sy'n cynnwys Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, PAVO a phartneriaid allweddol eraill. (Mwy)

Kim Lewis.png

Gwasanaeth newydd i helpu pobl gyda ‘hylendid cwsg’
Ionawr 31, 2022

Gall miloedd o oedolion ym Mhowys fod yn dioddef o apnoea cwsg heb ddiagnosis, yn ôl arbenigwr lleol.

Mae Kim Lewis, Ffisiolegydd Anadlol Arbenigol gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn rhedeg gwasanaeth newydd i helpu cleifion â'r cyflwr, gyda chyllid yn cael ei ddarparu gan Raglen Lles Gogledd Powys. (Mwy)

AdobeStock_402593989.jpeg

Cymorth i helpu pobl mynychu ymgynghoriadau meddygol ar-lein
Ionawr 7, 2022

Mae pobl yng ngogledd Powys, nad oes ganddynt fynediad i'r rhyngrwyd, bellach yn gallu ymweld â chanolfan gymorth yn y Drenewydd i'w helpu mynychu ymgynghoriadau meddygol ar-lein. (Mwy)

PR Phot1.jpg
Gwasanaeth i helpu pobl gydag apwyntiadau gofal iechyd rhithiwr bellach yn cael ei darparu.

Tachwedd 16, 2021

Mae gwasanaeth i helpu pobl mynychu apwyntiadau iechyd rhithiwr bellach ar waith ym Mhowys.

Trwy ddefnyddio cyllid gan Raglen Lles Gogledd Powys, penodwyd dau Hwylusydd Digidol i ddarparu cyngor a chefnogaeth i’r rhai sydd angen help i fynychu apwyntiadau fideo rhithiwr, gan ddefnyddio’r system Attend Anywhere neu Microsoft Teams.

​

Yn ogystal â gweithio ar gynlluniau hir dymor i wella darpariaeth iechyd a gofal yng ngogledd Powys – gan gynnwys datblygiad Campws Lles Amlasiantaethol yng nghanol y Drenewydd – mae’r Rhaglen Lles Gogledd Powys yn ariannu nifer o brosiectau tymor byr i wella iechyd a lles, fel yr un hyn.

​

Ymysg y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig trwy ddefnyddio system fideo y mae seicoleg, ffisiotherapi, rheoli poen a rhoi’r gorau i ysmygu er mae sawl gwasanaeth yn cael eu hychwanegu’n rheolaidd.

​

 Cath Quarrell yw’r Rheolwr Datblygu Gwasanaeth gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Esboniodd: “Rydym yn deall nid yw pawb yn gyfarwydd â defnyddio’r dechnoleg, sydd i rai, wedi dod yn rhan o’n byd gwaith ers dechrau’r pandemig. Felly, gyda diolch i gyllid gan Les Gogledd Powys, roeddem yn gallu buddsoddi mewn staff cymorth i arwain pobl trwy’r broses hyn, yn eu helpu mewngofnodi i’r sesiwn fideo gyda’r dechnoleg sydd ganddynt yn barod.”

​

“O fewn y gwasanaethau rydym yn cefnogi, gwelwn fod canran yr apwyntiadau a chollwyd wedi lleihau o ryw 20% i dua 3%” esboniodd Cath.

Ychwanegodd Tim Smith, yr Hwylusydd Digidol Arweiniol: “Roeddem yn disgwyl cefnogi’r ddemograffeg hÅ·n, sydd o bosibl yn llai cyfforddus yn defnyddio technoleg ar-lein ond yn aml rydym yn gweithio gyda phobl ifanc nad ydynt gyda mynediad i’r offer sydd angen arnynt. Yn ogystal â’r gwaith gyda thîm Rhaglen Lles Gogledd Powys, rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid ledled Powys i gynnig mwy o help o fewn y maes hwn.”

​

Esboniodd bod mwyafrif o gyfrifiaduron llechen, ffonau clyfar, cyfrifiadur personol a gliniaduron gyda rhyw fath o gamera y gellir ei ddefnyddio ar gyfer y systemau fideo hyn. Mae claf yn derbyn cynnig help gan yr Hwyluswyr digidol pan mae staff iechyd yn trefnu apwyntiadau iddynt, er hyn mae’r bwrdd iechyd yn cydnabod, ar gyfer rhai, mae apwyntiadau wyneb yn wyneb yn fwy addas.

​

Owen Hughes yw’r Pennaeth ar gyfer gwasanaeth Rheoli Poen a Blinder y bwrdd iechyd. Nododd: "Ar gyfartaledd mae’r trigolyn cyffredin ym Mhowys yn gwneud taith o 37 milltir i gyrraedd gofal iechyd – os ydych yn profi effeithiau poen hirdymor neu flinder cronig gall hwn deimlo llawer yn hirach, heb sôn am y gost a’r amser sy’n gysylltiedig â mynychu apwyntiadau. Mae unrhyw beth sy’n helpu ni oresgyn yr heriau hyn yn newyddion da iawn i unigolion – yn enwedig os yw’n cynorthwyo â lleihau ein hôl troed carbon ar yr un pryd.”

​

Llun: Hwylusydd Digidol Jon Patterson yn arddangos y system Attend Anywhere ar ei liniadur. 

NPWB Signpost ENG.png
Ceisir safbwyntiau ar syniadau cynnar ar gyfer campws iechyd a lles yng nghanolbarth y Drenewydd

Tachwedd 10, 2021

Mae pobl o fewn Gogledd Powys yn cael eu holi am eu safbwyntiau ar gynlluniau cynnar campws iechyd a lles amlasiantaethol yn y Drenewydd.

 

Lansiwyd arolwg ar-lein gan Raglen Lles Gogledd Powys yn gofyn am adborth ar syniadau cynnar am ddod ag iechyd a gofal cymdeithasol, gwasanaethau llyfrgell, tai â chymorth, mannau lles a rennir yn y gymuned ac academi iechyd a gofal, at ei gilydd yn ogystal â’r cynlluniau am adeilad newydd i Ysgol Calon y Dderwen yng nghanol y dref.

 

Arweinir y rhaglen gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys dan y  faner Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys gyda chymorth gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys.

 

Cyn y pandemig, cynhaliwyd llawer o ymgysylltu gan y tîm i ddod o hyd i’r hyn a oedd yn bwysig i bobl yn sgil eu hiechyd a lles. Gwrandawodd y tîm, ac fel rhan o hynny, yn datblygu syniadau cynnar ar sut i ddod â mwy o wasanaethau at ei gilydd ar y safle.

 

Mae Hayley Thomas, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad y bwrdd iechyd, yn Uwch Swyddog ar y cyd o’r rhaglen (gyda Chyfarwyddwr Corfforaethol y cyngor sy’n gyfrifol am Ofal Cymdeithasol, Ali Bulman). Ychwanegodd Ms Thomas “Un o’r buddion posibl o’r rhaglen hon fydd y gallu i gynnig fwy o ddiagnosteg a thriniaethau iechyd o fewn y Drenewydd, a fydd i rai, yn lleihau’r angen i deithio er enghraifft i’r Amwythig.”

 

Yn ddibynnol bod y cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gael, gobeithir y bydd y campws yn gweithredu yn 2026, ond rhagwelir y bydd adeilad newydd yr ysgol yn barod cyn y dyddiad hwn. Os ddatblygir, bydd prosiect y campws y gweld buddsoddiad sylweddol pellach yn y Drenewydd, yn dilyn y £95m ar gyfer y ffordd osgoi, y cynnig arfaethedig ar gyfer Ysgol Cedewain ac Agoriad lleoliad ar lan yr afon gyntaf y Drenewydd.

 

Pwysleisiodd Ms Thomas nid yw’r rhaglen am y Drenewydd yn unig. “Rydym yn edrych i ddatblygu gwelliannau yn ofal a lles ledled gogledd Powys. Mewn gwirionedd, rydym wedi bod yn ariannu nifer o brosiectau ‘llwyddiannau sydyn’, megis cefnogi hwyluswyr digidol i helpu pobl ifanc fynychu apwyntiadau iechyd ar-lein a chynnig ffynonellau i wella’r gwasanaethau offthalmoleg ac anadlu ledled yr ardal.”

 

Mae Cynghorydd Cyngor Sir Powys Myfanwy Alexander yn Gadeirydd o Grŵp Goruchwylio’r Rhaglen. Meddai: ‘Rydym yn edrych i gyflwyno gwell iechyd i’n preswylwyr mewn ffyrdd newydd ac rydym am weithio gyda’n gilydd gydag unigolion a sefydliadau i sicrhau ein bod yn arwain y prosiect cyffrous yma i gyflwyno’r buddion mwyaf i’n cymunedau.’

 

Mae’r arolwg ar-lein ar gael ar www.dweudeichdweudpowys.cymru/cynlluniau-cynnar-ar-gyfer-campws-lles-amlasiantaeth-yn-y-drenewydd (neu www.powyswellbeing.wales) a fydd ar gael tan ganol nos ar Ragfyr 12fed.

 

Bydd copïau papur ar gael yn fuan o lyfrgelloedd y cyngor yng ngogledd Powys neu drwy powyswellbeing.north@wales.nhs.uk neu drwy ffonio 07792 129677.

 

Nid y cyfle olaf i bobl lleisio’u barn fydd yr arolwg hwn. Bydd ymgysylltu pellach yn digwydd wrth i’r prosiect ddatblygu yn y blynyddoedd i ddod.

Final MOC plan on a page1702.jpg
​

​

Mae Rhaglen Lles Gogledd Powys wedi cyhoeddi gweledigaeth ar gyfer iechyd a lles ar ôl gwrando ar farn y trigolion.

Mae Model Gofal a Lles Integredig y rhaglen yn nodi gweledigaeth o ran sut y gellir trawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal yng ngogledd y sir.

​

Lluniwyd y ddogfen (sydd i'w gweld yn http://www.powyswellbeing.wales/modelofcareandwellbeing?lang=cy) ar ôl clywed barn trigolion a phartneriaid, a gasglwyd drwy sesiynau 'gwrando' amrywiol yn 2019.

​

Mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno ar y cyd gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys a bydd y gwaith yn cynnwys y ddau sefydliad a fydd yn gweithio mewn partneriaeth â chymunedau lleol a sefydliadau partner i ddatblygu ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau.

​

Carol Shillabeer yw Prif Weithredwr y bwrdd iechyd.

Dywedodd: "Mae rhaglen Gogledd Powys yn gyfle i ni helpu i drawsnewid sut mae gwasanaethau'n cael eu cynnig yn y rhan hon o'r sir - drwy weithio gydag eraill mewn ffyrdd newydd a chyffrous, gallwn wneud ein rhan i helpu i wella iechyd a lles pobl, gweithio'n fwy clyfar, a lle bo'n bosibl, darparu mwy o ofal, yn agos at gartrefi pobl."

​

Mae'r Cynghorydd Myfanwy Alexander yn Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion gyda'r cyngor. Ychwanegodd: 'Rydym yn ymrwymedig i sbarduno newid, gan ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl mewn modd di-dor. Drwy gydweithio â'n partneriaid yn y Bwrdd Iechyd a broceru prosiectau llesiant mwy annisgwyl efallai gydag Agor Drenewydd neu Oriel Davies, rwy’n credu y gallwn ddod â gwelliant gwirioneddol i fywydau trigolion yr ardal.’

​

Roedd yr ymarferion gwrando yn gofyn i drigolion pa ffactorau roedden nhw’n eu hystyried yn bwysig ar gyfer eu cadw'n ddiogel ac yn iach yn eu cartrefi neu yn eu cymuned, yn eu hardal neu eu rhanbarth a'r tu allan i'r sir.

Mae'r model yn mynd i'r afael â'r ymatebion hynny, gan nodi'r hyn y mae tîm y rhaglen yn ei ddeall sy'n bwysig i bobl leol o ran:

  • Canolbwyntio ar les;

  • Cymorth a chefnogaeth gynnar;

  • Mynd i'r afael â'r pedwar afiechyd mawr – Clefyd cylchrediad y gwaed, clefyd anadlol, canser a phroblemau iechyd meddwl;

  • Gofal cydgysylltiedig wedi'i integreiddio'n llawn.

  • ​

Mae hefyd yn gwrthgyferbynnu sut y caiff gwasanaethau gofal a chymorth trigolion Powys eu darparu nawr a sut y gellid cyflawni hyn yn 2027 a thu hwnt. Mae'r astudiaethau achos yn ffuglennol ond yn seiliedig ar brofiadau cyfredol nodweddiadol.

​

Bydd y darn hwn o waith yn cael ei ddilyn gan waith ymgysylltu a datblygu pellach wrth i dîm y rhaglen lunio Achos Amlinellol Strategol ar gyfer y rhaglen gyfan a bydd rhagor o wybodaeth am hyn yn cael ei chyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf.

​

Bydd yr Achos Amlinellol Strategol yn edrych ar sut y gellir datblygu campws yng nghanol y Drenewydd i gynnwys iechyd a gofal, addysg, tai â chymorth a chyfleusterau lles cymunedol. Fodd bynnag, byddai'r ganolfan hon yn gweithio i ategu'r gwasanaethau iechyd a gofal sydd ar gael mewn trefi eraill ar draws gogledd Powys.

Rhaglen Gogledd Powys yn amlinellu 'model gofal a lles Integredig'

Awst 18, 2021
bottom of page