top of page
NPWBPTeambackground.jpg

Gwasanaeth newydd i helpu pobl gyda
‘hylendid cwsg’

Ionawr 31, 2022

Kim Lewis.png

Gall miloedd o oedolion ym Mhowys fod yn dioddef o apnoea cwsg heb ddiagnosis, yn ôl arbenigwr lleol.

Mae Kim Lewis, Ffisiolegydd Anadlol Arbenigol gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn rhedeg gwasanaeth newydd i helpu cleifion â'r cyflwr, gyda chyllid yn cael ei ddarparu gan Raglen Lles Gogledd Powys.

​

"Rydym yn ymwybodol bod nifer sylweddol o bobl ym Mhowys wedi cael diagnosis ar gyfer y cyflwr hwn ond os edrychwn ar y cyfraddau cyfartalog ar gyfer y DU, disgwylir i'r ffigwr hwnnw fod rhwng 1,800 - 4,000 felly rydym yn credu bod yna bobl yn ein sir y gallwn ni helpu," meddai Ms Lewis.

​

Mae apnoea cwsg yn gyflwr anadlol sy'n digwydd pan fydd person yn cysgu a bod ei llwybrau anadlu yn cwtogi yn amlach nag sy'n arferol, yn lleihau lefelau ocsigen, cynyddu cyfradd y galon ac yn aml deffro'r unigolyn. Yn ogystal â blinder cynyddol, mae'r cyflwr yn gysylltiedig â gorbwysedd, syndrom metabolig, diabetes, methiant y galon, clefyd y rhydweli coronaidd, arrhythmia, strôc, gorbwysedd ysgyfeiniol, anhwylderau niwrowybyddol ac yn yr hwyliau. Yn aml, mae'n effeithio'n negyddol ar fywyd cartref unigolyn oherwydd nad yw'n gallu cyflawni gweithgareddau dyddiol arferol, gan gynnwys gweithio, yn ogystal â chael effaith ar eu perthnasoedd os nad oes ganddyn y cyflwr. Gall hefyd arwain at chwalu bywyd cartref oherwydd y mae’n achosi i’r unigolyn chwyrnu’n sylweddol a blinder eithriadol yn ystod y dydd.

​

Amcangyfrifwyd yn y gorffennol fod tua 2% o fenywod a 4% o ddynion, dros 50 oed yn dioddef o apnoea cwsg er bod y ffigwr, ar gyfer menywod, yn cynyddu ar ôl y menopos (eto, tua 4%). Ymhlith y ffactorau sy'n dylanwadu ar ei gyffredinrwydd y mae gordewdra, oedran uwch, rhyw, menopos ac ethnigrwydd. Gall fod yn broblem yn ystod beichiogrwydd hefyd.

​

“Rydym wedi dechrau gwasanaeth diagnostig cwsg ym Mhowys. Gyda'r cyllid gan Raglen Lles Gogledd Powys rydym wedi llwyddo i sicrhau offer i brofi pobl ac rydym bellach yn gallu cynnig y gwasanaeth hwn i unrhyw un o drigolion Powys o bell, fel nad oes rhaid iddyn nhw deithio i ysbyty penodol," ychwanegodd.

​

"Rydym hefyd wedi cysylltu â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys yn eu canolfan yn y Drenewydd. Felly, bydd y cyfle unrhyw un yn yr ardal, nad yw'n arbennig o hyderus gyda thechnoleg, i ddefnyddio PAVO am ychydig o gymorth."

​

Fel arfer, y bydd cleifion yn cael eu cyfeirio at dîm Kim gan feddygon teulu a fydd wedyn yn cysylltu â'r claf i drefnu ymgynghoriad fideo gyda nhw i drafod yr offer profi. Yn dilyn y profion, mae'r meddyg teulu wedyn mewn sefyllfa i gyfeirio cleifion at gymorth arbenigol priodol os caiff diagnosis apnoea cwsg.

​

Mae Carly Skitt yn Gyfarwyddwr Rhaglen Gynorthwyol gyda Rhaglen Lles Gogledd Powys, sydd wedi'i lleoli yn y Drenewydd. Nododd: "Er ein bod yn gweithio ar y cynlluniau hirdymor ar gyfer y campws iechyd a lles amlasiantaethol a'r potensial i ddarparu mwy o wasanaethau'n lleol yng ngogledd Powys drwy'r datblygiad newydd, mae'n hanfodol ein bod hefyd yn datblygu gwasanaethau lleol yn y tymor byr lle bo’n bosibl'.

​

Ychwanegodd Carly: "Dyna pam rydym yn falch iawn o allu helpu i ariannu'r gwasanaeth hwn a fydd, gobeithio, yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl."

bottom of page