Powys Gyda’n Gilydd yn helpu pobl ifanc ddathlu dros y Nadolig
Ionawr 26, 2023
Cafodd ddisgyblion presennol a chyn-ddisgyblion Ysgol Cedewain yn Y Drenewydd arddangosiad arbennig o'r clasur Nadolig 'Elf' yng Nghanolfan Regent y Drenewydd, gyda diolch i grŵp a sefydlwyd i gefnogi plant a'u teuluoedd yng ngogledd Powys, y rhieni - a'r sinema ei hun wrth gwrs.
​
Cafodd y daith i’r sinema ei threfnu ar gyfer 20 o bobl ifanc gan Bowys Gyda’n Gilydd, sy’n cael ei ariannu gan Raglen lles Gogledd Powys, gyda chymorth gan rieni.
​
Mae gan Bowys gyda’n Gilydd staff sy’n gweithio yn y Trallwng, y Drenewydd, Llanidloes a Machynlleth a oedd yn gyfrifol am nifer o brosiectau dros yr Å´yl.
​
Yn y Trallwng, trefnodd swyddog Powys gyda’n Gilydd Gwen Evans, Cinio Nadolig i bobl ifanc lleol - a oedd wrth eu bodd yng Nghanolfan Integredig i Deuluoedd Y Trallwng (yr Hen Feithrinfa Oldford ac Ysgol Fabanod).
​
Yn y Drenewydd hefyd, gweithiodd Donna Jenkins o Bowys Gyda’n Gilydd gyda’r Ganolfan Regent i drefnu dangosiad ‘matinee’ o’r clasur Nadolig.
​
Wnaeth Amy Bowen, sy’n rhiant, hefyd helpu trefnu’r daith i’r sinema. Nododd: “Roedd y daith i’r sinema dros y Nadolig wedi codi calon. Roedd pawb yn hapus ac yn gyffrous iawn i gael yr anrheg Nadolig o fynd i’r sinema, dewis eu diodydd, popgorn a byrbrydau eu hunain. Roedd rhieni a gofalwyr yn gallu ymlacio yn gweld ein pobl ifanc gyda'i gilydd. Roedd gweld y bobl ifanc yn gwneud yr hyn mae pobl ifanc i fod i wneud yn ein hatgoffa o ba mor bwysig yw cyfleoedd cymdeithasol fel hyn. Roedd hi’n arbennig o braf gweld disgyblion Ysgol Cedewain yn siarad gyda hen ffrindiau unwaith eto.
​
Ychwanegodd Amy: “Y rhan fwyaf arbennig oedd yr olygfa olaf yn y ffilm, lle mae dieithriaid yn Central Park Efrog Newydd yn helpu sled Siôn Corn sydd wedi torri i hedfan drwy ddangos eu hysbryd Nadolig a dechrau canu "Santa Claus is Coming to Town." Adleisiodd y gân yn y sinema wrth i bawb ddechrau canu fel un. Mae gwên ar fy wyneb yn meddwl am y peth! Roedd y teimlad o agosatrwydd yn ein cadw ni'n fywiog am ddyddiau wedyn wrth i rieni anfon negeseuon i mi yn diolch am helpu i'w drefnu a pha mor hyfryd roedd y diwrnod."
​
Mae Ysgol y Cedewain yn ysgol i blant gydag anghenion dysgu ychwanegol ac mae gwaith ar adeilad newydd i’r ysgol ar y gweill.
Llun 1: Pobl ifanc yn mwynhau arddangosiad arbennig yn y Ganolfan Regent yn y Drenewydd.
Llun 2: Mwynhau cinio Twrci am ddim yn y Trallwng.