top of page

Meddyg Teulu o’r Trallwng yn ymuno â’r tîm
Hydref 18, 2022

Mae Meddyg Teulu o’r Trallwng wedi ymuno â thîm Rhaglen Lles Gogledd Powys i gynorthwyo â’r gwaith o drawsnewid iechyd a lles yn yr ardal.

Mae Dr Claire Hirons yn bartner meddyg teulu yn y Trallwng ac mae hi bellach yn gweithio gyda'r tîm fel Arweinydd Clinigol Meddyg Teulu yn rhan amser. Ei rôl fydd cysylltu â meddygon teulu sy'n gweithio ar draws gogledd Powys er mwyn sicrhau bod eu harbenigedd yn cael ei fwydo i gynlluniau'r rhaglen.

​

“Rydw i wedi cael y pleser o weithio yn Y Trallwng ers 2 flynedd ac rwy'n teimlo fy mod bellach wedi gwreiddio fy hun yng Ngogledd Powys," meddai Dr Hirons.

​

"Cyn y rôl hon, roeddwn i'n feddyg teulu ym Macclesfield, lle, drwy'r Rhwydwaith Gofal Sylfaenol, cefais gyfle i weithio'n agos gyda'r cymunedau gofal lleol gan ddatblygu gwahanol brosiectau lles. Rhoddodd y gwaith hwn angerdd i mi i ddilyn llwybrau ar gyfer gweithio ar y cyd."

"Rydw i wedi gweld y manteision y gall y prosiectau hyn eu cyflwyno, gan gynnig gofal cyfannol i'n cleifion o fewn eu cymunedau eu hunain. Rydw i’n gyffrous o fod wedi derbyn y cyfle i fod yn rhan o Raglen Lles Gogledd Powys."

​

Mae gan Raglen Lles Gogledd Powys nod hirdymor o drawsnewid gwasanaethau iechyd a lles yn yr ardal. Fel rhan o hyn, mae'r rhaglen yn cynllunio campws lles amlasiantaethol yng nghanol y Drenewydd.  Y campws fydd cartref y rhan fwyaf o ddarpariaeth GIG y Drenewydd (gan gynnwys gwasanaethau ysbyty) a’r cynllun yw y bydd y campws hefyd yn darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol a'r sector gwirfoddol. Mae academi iechyd a gofal newydd sy'n gweithio'n agos gyda'r llyfrgell hefyd yn rhan o gynlluniau tîm y rhaglen ar gyfer y safle, ger Stryd y Parc.

Yn gynharach eleni, cyflwynodd y tîm - sydd wedi'i leoli yn NhÅ· Ladywell ar Stryd y Parc yn y Drenewydd - Achos Amlinellol Strategol ar gyfer y campws i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo.

​

Carys Williams, yw Rheolwr Newid Clinigol y tîm ac mae'n gyn-nyrs damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth. "Mae campws y Drenewydd yn elfen bwysig o'n gwaith ond nid yw'n rhaglen yn canolbwyntio ar y campws yn unig. Rydym yn edrych i weld sut y gallwn wella gwasanaethau ym mhob un o'n hysbytai yng ngogledd y sir a, lle gallwn ei wneud yn ddiogel, dod â rhai gwasanaethau yn ôl o'r tu allan i'r sir.

 

Ychwanegodd: "Rydym hefyd wedi rhoi rhywfaint o arian i ariannu gwasanaethau newydd - fel y clinigau gofal llygaid newydd yn ysbytai Llanidloes a'r Trallwng - gan y gallem weld bod cyfleoedd i wneud gwelliannau cyflym. Mae'r clinigau hyn nawr ar waith, gan gynnig cyfleusterau sganio nad oedd ar gael yng ngogledd Powys o'r blaen."

Claire Hirons (5) crop.jpg
bottom of page