top of page
Kian_and_Hanna.jpg

Canmoliaeth i wirfoddolwyr clwb ieuenctid Machynlleth
Chwefror 20, 2023

Mae Powys Ynghyd wedi talu teyrnged i waith gwirfoddolwyr ym Machynlleth sydd wedi sefydlu clwb ieuenctid llewyrchus yn Athrofa Owain Glyndŵr y dref.

​

Mae Jen Hughes, swyddog Powys Ynghyd Machynlleth, wedi canmol pobl leol, gan gynnwys disgyblion y chweched dosbarth lleol am eu hymdrechion. Grŵp i gefnogi pobl ifanc a'u teuluoedd yw Powys Ynghyd, ac mae'n cael ei ariannu gan Raglen Les Gogledd Powys.

​

Eglurodd Jen: "Llynedd fe wnes i weithio gyda gweithiwr ieuenctid ysgolion Cyngor Sir Powys, Elen Chick, i siarad gyda phobl ifanc y dref am ba fath o ddarpariaeth clwb ieuenctid yr hoffen nhw ei weld ym Machynlleth."

"Roedd nifer ohonom ni - y sector cyhoeddus, y sector gwirfoddol ac aelodau o'r cyhoedd - wedi mynd o amgylch y bwrdd i weld beth allwn ni ei wneud ac roedd hi'n anhygoel gweld y clwb ieuenctid (Ieuenctid Mach Youth, IMY) yn dod yn fyw ym mis Tachwedd hanner tymor. Mae tua 115 o bobl ifanc wedi cofrestru gyda'r clwb bellach ac rydyn ni'n gweld tua 60 o bobl yn mynychu’n rheolaidd bob wythnos" meddai Jen.

​

"Fodd bynnag, rhaid i mi ddiolch i Sarah, Nicky, Elen, am eu hymdrechion yn gwirfoddoli. Maen nhw'n dod allan bob nos Fawrth i gynnal y sesiynau gyda chefnogaeth ychwanegol gan wirfoddolwyr ar rota ac maen nhw'n gwneud pethau anhygoel. Maen nhw hefyd yn cael eu cefnogi gan dîm gwych y tu ôl i'r llenni, Shaun, Sian, Liz, Bethan a Simon dim ond i enwi ychydig, sydd i gyd yn gwneud gwaith gweinyddol, codi arian, y gwiriadau DBS a Jenny a'i thîm yn datblygu'r gofod ac addurno'r ystafell yn yr Athrofa."

Mae IMY ar agor i bobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed ac yn cael ei gynnal yn yr Athrofa bob nos Fawrth, a bydd yn symud i ddwy noson yr wythnos yn fuan. Mae croeso cynnes i aelodau newydd, ac mae'n rhad ac am ddim i'w fynychu. Mae nifer o ddisgyblion chweched dosbarth o Ysgol Bro Hyddgen y dref hefyd yn helpu rhedeg y clwb fel rhan o'u hastudiaethau Safon Uwch gan gynnwys astudiaethau'r Fagloriaeth Gymraeg ac wedi datblygu sgiliau ar gyfer eu CV.

​

Mae aelodau o'r gymuned wedi rhoi eu hamser am ddim a chynnyrch am bris masnach i gael yr ystafell yn barod i'w defnyddio a hefyd rhoi offer i'r clwb gydag arian arall diolch i grant gan Comic Relief, a sicrhawyd gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO). Sicrhawyd hefyd arian i gyflogi gweithiwr ieuenctid, Bethan Clewes, a ymunodd â'r tîm y mis hwn.

Os hoffai unrhyw un wirfoddoli i helpu, cysylltwch ag un o'r gwirfoddolwyr presennol.

 

 

​

Llun: Mae Kian a Hanna yn ddau ddisgybl o’r 6ed dosbarth yn Ysgol Bro Hyddgen sy'n helpu gyda'r clwb.

 

Llun: Yn y llun mae Swyddog Powys Ynghyd Machynlleth Jen Hughes (y dde) Elen Chick a'r cyn-gydweithiwr Jayne Hopkins (canol).

​

​

bottom of page