IECHYD A LLES
Diffinnir lles gan Eiriadur Saesneg Rhydychen fel “y cyflwr o fod yn gyffyrddus, yn iach neu'n hapus.” Fodd bynnag, mae'n bwysig sylweddoli bod lles yn gysyniad llawer ehangach na hapusrwydd o bryd i fryd.
Er ei fod yn cynnwys hapusrwydd, mae hefyd yn cynnwys pethau eraill, megis pa mor fodlon yw pobl â'u bywyd yn ei gyfanrwydd, eu synnwyr o bwrpas, a pha o fewn rheolaeth maen nhw'n teimlo.
Mae ymyriadau iechyd a gofal sydd ddim yn cyrraedd y rhai sydd â’r risg fwyaf yn debygol o gynyddu'r annhegwch mewn canlyniadau iechyd. Gellir lleihau anghydraddoldebau trwy weithio'n effeithiol ar draws iechyd, awdurdodau lleol, ysgolion ac asiantaethau eraill trwy ymyriadau trwy gydol y cwrs bywyd, ond gyda phwyslais arbennig ar lesiant, y 1000 diwrnod cyntaf, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac annibyniaeth.
Mae angen gweithio'n llawer agosach gyda'n cymunedau i ddarparu gwasanaethau rhyng-genhedlaeth sy'n cefnogi pawb gan gynnwys y rhai sydd ei angen fwyaf.
​
Mae cefnogi ffyrdd iach o fyw yn cyfrannu'n allweddol at les trigolion Powys yn y dyfodol. Mae ffyrdd o fyw afiach yn rhoi mwy o alw ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn lleihau cyfle pobl i fyw bywydau boddhaus.
CANLYNIADAU LLES BWRIADEDIG
Trwy ganolbwyntio'n llwyddiannus ar lesiant, bydd pobl ym Mhowys yn dweud;
​
-
Rwy'n gyfrifol am fy iechyd a lles fy hun
-
Gallaf fyw bywyd cyflawn
-
Rwy'n gallu ac yn cael cefnogaeth i wneud dewisiadau ffordd iach o fyw am fy iechyd meddwl a chorfforol, a lles, i mi fy hun a fy nheulu
-
Mae gen i gyfleoedd bywyd pwy bynnag ydw i a ble bynnag rydw i'n byw ym Mhowys.
-
Mae'r amgylchedd/cymuned rwy'n byw ynddo yn fy nghefnogi i fod yn gysylltiedig ac i gynnal fy iechyd a lles
-
Fel gofalwr, rydw i'n gallu byw bywyd cyflawn a theimlo fy mod i'n cael cefnogaeth