Cymorth i helpu pobl mynychu ymgynghoriadau meddygol ar-lein
Ionawr 7, 2022
Mae pobl yng ngogledd Powys, nad oes ganddynt fynediad i'r rhyngrwyd, bellach yn gallu ymweld â chanolfan gymorth yn y Drenewydd i'w helpu mynychu ymgynghoriadau meddygol ar-lein.
​​
Mae Tîm Trawsnewid Digidol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gweithio gyda Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) a Rhaglen Lles Gogledd Powys i gynnig cymorth i drigolion lleol fynychu ymgynghoriadau meddygol ar-lein fel rhan o brosiect peilot.
​
Sue Hamer yw Rheolwr Rhaglen Ddigidol y bwrdd iechyd ac esboniodd: "Yn ystod y 18 mis diwethaf, bu datblygiad sylweddol er mwyn cynnig cyfle i fwy o gleifion gymryd rhan mewn ymgynghoriadau meddygol gydag arbenigwyr gan ddefnyddio ein system fideo-gynadledda, o'r enw Attend Anywhere. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol bod angen ychydig o gymorth ar rai i gael mynediad at hyn; naill ai oherwydd nad oes ganddyn nhw'r cyfarpar neu oherwydd nad oes ganddyn nhw'r hyder i ddefnyddio’r meddalwedd.”
​
“Felly, diolch i’n partneriaeth gyda PAVO, gall ein preswylwyr nawr ddefnyddio lleoliad cyfrinachol a diogel ym Mhlas Dolerw ar Ffordd Milford, y Drenewydd i fynychu eu hapwyntiad,” Ychwanegodd Ms Hamer.
​
Bydd manylion ar sut i gael gafael ar y cymorth yn cael eu rhannu gyda chleifion gan staff y GIG sy’n trefnu’r apwyntiad. Ar hyn o bryd mae’r cynllun peilot ar gael ar gyfer unrhyw wasanaeth sy’n defnyddio meddalwedd Attend Anywhere.
​
Mae Rhys Roberts, arweinydd PAVO ar y prosiect, yn cydlynu canolfan gymorth y Drenewydd. Eglurodd: "Mae'r ganolfan yn cynnig lle diogel i'r rhai nad ydynt efallai am gael eu hymgynghoriad ar-lein gartref. Bydd staff cymorth ar gael os oes angen cymorth technegol wrth gael mynediad at yr apwyntiad.
​
"Rydym yn sylweddoli na fydd ymgynghoriad ar-lein yn addas i rai gwasanaethau iechyd, ond i lawer o therapïau y mae - a gall arbed amser (ac arian) i'r claf o'i gymharu â theithio y tu allan i'r sir," dywedodd Mr Roberts.
Mae Rhaglen Lles Gogledd Powys yn helpu ariannu'r symudiad er mwyn gwneud gwasanaethau ar-lein yn haws eu cyrraedd fel rhan o'i nod o drawsnewid gwasanaethau iechyd a lles yng ngogledd y sir.
​
Esboniodd Carly Skitt, Cyfarwyddwr Rhaglen Gynorthwyol: "Er ein bod yn gwneud llawer iawn o waith wrth gynllunio ar gyfer y campws iechyd a lles amlasiantaethol newydd yn y Drenewydd, rydym hefyd yn ariannu nifer o brosiectau 'llwyddiannau sydyn” er mwyn cefnogi ein huchelgais ehangach o drawsnewid gwasanaethau iechyd a lles."
​
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Rhys.Roberts@wales.nhs.uk diwedd