top of page
NPWBPTeambackground.jpg

Gwasanaeth i helpu pobl gydag apwyntiadau gofal iechyd rhithiwr bellach yn cael ei darparu.
Tachwedd 16, 2021

PR Phot1.jpg

Mae gwasanaeth i helpu pobl mynychu apwyntiadau iechyd rhithiwr bellach ar waith ym Mhowys.

Trwy ddefnyddio cyllid gan Raglen Lles Gogledd Powys, penodwyd dau Hwylusydd Digidol i ddarparu cyngor a chefnogaeth i’r rhai sydd angen help i fynychu apwyntiadau fideo rhithiwr, gan ddefnyddio’r system Attend Anywhere neu Microsoft Teams.

​

Yn ogystal â gweithio ar gynlluniau hir dymor i wella darpariaeth iechyd a gofal yng ngogledd Powys – gan gynnwys datblygiad Campws Lles Amlasiantaethol yng nghanol y Drenewydd – mae’r Rhaglen Lles Gogledd Powys yn ariannu nifer o brosiectau tymor byr i wella iechyd a lles, fel yr un hyn.

​

Ymysg y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig trwy ddefnyddio system fideo y mae seicoleg, ffisiotherapi, rheoli poen a rhoi’r gorau i ysmygu er mae sawl gwasanaeth yn cael eu hychwanegu’n rheolaidd.

​

 Cath Quarrell yw’r Rheolwr Datblygu Gwasanaeth gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Esboniodd: “Rydym yn deall nid yw pawb yn gyfarwydd â defnyddio’r dechnoleg, sydd i rai, wedi dod yn rhan o’n byd gwaith ers dechrau’r pandemig. Felly, gyda diolch i gyllid gan Les Gogledd Powys, roeddem yn gallu buddsoddi mewn staff cymorth i arwain pobl trwy’r broses hyn, yn eu helpu mewngofnodi i’r sesiwn fideo gyda’r dechnoleg sydd ganddynt yn barod.”

​

“O fewn y gwasanaethau rydym yn cefnogi, gwelwn fod canran yr apwyntiadau a chollwyd wedi lleihau o ryw 20% i dua 3%” esboniodd Cath.

Ychwanegodd Tim Smith, yr Hwylusydd Digidol Arweiniol: “Roeddem yn disgwyl cefnogi’r ddemograffeg hÅ·n, sydd o bosibl yn llai cyfforddus yn defnyddio technoleg ar-lein ond yn aml rydym yn gweithio gyda phobl ifanc nad ydynt gyda mynediad i’r offer sydd angen arnynt. Yn ogystal â’r gwaith gyda thîm Rhaglen Lles Gogledd Powys, rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid ledled Powys i gynnig mwy o help o fewn y maes hwn.”

​

Esboniodd bod mwyafrif o gyfrifiaduron llechen, ffonau clyfar, cyfrifiadur personol a gliniaduron gyda rhyw fath o gamera y gellir ei ddefnyddio ar gyfer y systemau fideo hyn. Mae claf yn derbyn cynnig help gan yr Hwyluswyr digidol pan mae staff iechyd yn trefnu apwyntiadau iddynt, er hyn mae’r bwrdd iechyd yn cydnabod, ar gyfer rhai, mae apwyntiadau wyneb yn wyneb yn fwy addas.

​

Owen Hughes yw’r Pennaeth ar gyfer gwasanaeth Rheoli Poen a Blinder y bwrdd iechyd. Nododd: "Ar gyfartaledd mae’r trigolyn cyffredin ym Mhowys yn gwneud taith o 37 milltir i gyrraedd gofal iechyd – os ydych yn profi effeithiau poen hirdymor neu flinder cronig gall hwn deimlo llawer yn hirach, heb sôn am y gost a’r amser sy’n gysylltiedig â mynychu apwyntiadau. Mae unrhyw beth sy’n helpu ni oresgyn yr heriau hyn yn newyddion da iawn i unigolion – yn enwedig os yw’n cynorthwyo â lleihau ein hôl troed carbon ar yr un pryd.”

​

Llun: Hwylusydd Digidol Jon Patterson yn arddangos y system Attend Anywhere ar ei liniadur.

bottom of page