top of page

Benthyciadau iPad am ddim i bobl Powys
Hydref 13, 2022

Mae pobl ym Mhowys yn cael cynnig cyfle i fenthyg iPad am ddim, diolch i gefnogaeth Cronfa’r Economi Gylchol Llywodraeth Cymru.

​

Mae'r iPads ar gael i unrhyw aelod o Wasanaeth Llyfrgell y cyngor – gallwch ymuno am ddim. Gall unrhyw un sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio ym Mhowys ymuno â'r llyfrgell.

​

Mae Rhaglen Lles Gogledd Powys hefyd yn cefnogi'r cynllun gan ei fod yn cyd-fynd gydag un o'i nodau - gan alluogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau iechyd rhithwir (h.y cymryd rhan mewn galwad fideo gydag arbenigwr iechyd sydd mewn lleoliad gwahanol.)

​

Mae'r iPads yn ‘barod ar gyfer y rhyngrwyd' ac ar gael i bobl dros 18 oed i'w benthyg am bedair wythnos ar y tro. Mae gan bob iPad gerdyn sim gyda lwfans data symudol i unrhyw un sydd heb gysylltiad Wi-Fi cartref.  

I gael gwybod mwy, neu i wneud cais am iPad, ewch i’ch llyfrgell leol, neu ffoniwch Linell y Llyfrgell ar 01874 612394 neu anfonwch e-bost at library@powys.gov.uk

​

Dywedodd y Cyng. David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Flaengar:   “Rydyn ni’n falch o allu helpu trigolion i ddefnyddio’r rhyngrwyd, a gwella eu sgiliau digidol, wrth gynnig yr iPads hyn am ddim.

"Mae hwn yn gyfle gwych i unrhyw un sydd angen mynd ar-lein - boed hynny ar gyfer gwaith neu i astudio, gwneud rhywfaint o siopa ar-lein neu gymryd rhan mewn ymgynghoriad iechyd rhithwir - i wneud hynny heb y draul o brynu offer, a’r elfen ychwanegol o gymorth technegol wrth law."

​

"I unrhyw un sydd heb ddefnyddio iPad neu ddyfais symudol o'r blaen, mae ein llyfrgellwyr wrth law i'ch rhoi ar y trywydd cywir ac ar gael dros y ffôn neu wyneb yn wyneb trwy gydol y cyfnod benthyg.”

Mae Tim Smith, Prif Hwylusydd Digidol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn arwain Rhaglen Ymgysylltu Digidol a Llythrennedd Iechyd Rhaglen Lles Gogledd Powys. Nododd: "Mae yna lawer o wasanaethau iechyd rydym yn teimlo y gellir eu darparu'n ddiogel ac yn effeithiol ar-lein ond i rai pobl mae yna rwystrau o allu cymryd rhan yn hyn.

​

"Un o'r rhwystrau yma yw diffyg ffôn clyfar, tabled, gliniadur neu gyfrifiadur personol. Felly i helpu gyda hyn, rydyn yn falch bod y gwasanaeth benthyg hwn ar gael.”

bottom of page