top of page
NPWBPTeambackground.jpg

Croesawu cymeradwyaeth achos busnes ar gyfer campws iechyd a lles
Mawrth 16, 2022

Mae campws iechyd a lles o’r radd flaenaf yn y Drenewydd wedi cymryd cam arwyddocaol ymlaen yn dilyn cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru.

 

Cyflwynwyd Achos Busnes  Rhaglen (ABRh) yn gynharach I Lywodraeth Cymru gan Raglen Lles Gogledd Powys oedd yn amlinellu'r buddion o ddod â gwasanaethau iechyd a lles ynghÅ·d ar un safle drws nesaf I Stryd Y Parc yn y Drenewydd.  Cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn y Senedd ddoe (dydd Mawrth 15 Mawrth) ei fod yn cymeradwyo’r achos busnes hwn, gan nodi bod hwn yn garreg filltir bwysig i’r prosiect.

 

Mae Rhaglen Lles Gogledd Powys yn rhaglen flaenllaw Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys, sy’n cynnwys Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, CMGP a phartneriaid allweddol eraill.

 

Mae Hayley Thomas, Dirprwy Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Gyd Swyddog Cyfrifol am y rhaglen Lles Gogledd Powys: “Rydym yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi ystyried ein syniadau cynnar am y datblygiad  cyffrous ac arloesol yma. Tra rydym wedi bod yn aros am benderfyniad, rydym hefyd wedi gwneud cynnydd wrth ddatblygu achos busnes yr ail gam - yr Achos Strategol Amlinellol -  a bydd y cynlluniau hyn yn cael eu hystyried gan y bwrdd iechyd yn hwyrach ymlaen y mis yma. Os caiff hyn ei gymeradwyo, yna byddwn yn ei gyflwyno I Lywodraeth Cymru.”

 

Ymhlith y cynlluniau cynnar ar gyfer campws Y Drenewydd yw ystyried symud darpariaeth iechyd Y Drenewydd i Ganolfan Ddiagnosteg a Thriniaeth Ranbarthol Wledig, ynghyd â Chanolfan Iechyd a Gofal Integredig (gan gynnwys gofal cymdeithasol a darpariaeth trydydd sector), Academi Iechyd a Gofal, tai â chymorth tymor byr, llyfrgell a gwasanaethau gwybodaeth ynghÅ·d â lle cymunedol.

 

Mae darpariaeth ar gyfer nifer bychan o lety ar gyfer myfyrwyr fydd yn mynychu’r academi, rhai sydd newydd ei recriwtio i swyddi iechyd a gofal yn ogystal ag arbenigwyr iechyd locwm hefyd yn cael ei hystyried.   Mae Ysgol newydd ar gyfer Ysgol Calon y Dderwen hefyd yn cael ei ddatblygu o dan raglen Trawsnewid Ysgolion Cyngor Sir Powys gyda thimau'r ddwy raglen yn gweithio’n agos. 

 

Ali Bulman  yw Cyfarwyddwr Gweithredol Cyngor Sir Powys ar gyfer Datblygu Sefydliadol a Phobl, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac sydd hefyd yn Swyddog Cyfrifol am y rhaglen. “ Mae hyn yn newyddion arbennig ac rydym yn hynod o falch i gael y gefnogaeth yma gan Lywodraeth Cymru.” 

 

“Fodd bynnag, rydym yn parhau i fod ar gam cynnar ac, yn ddibynnol ar ein Hachos Strategol Amlinellol hefyd yn derbyn cefnogaeth, mae dau gam achos busnes arall y bydd angen inni fynd drwyddynt.  Os bydd pob achos busnes yn derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru fodd bynnag, yr amcan yw i agor ar ddiwedd 2026 er disgwylir  y bydd ailddatblygiad yr ysgol yn barod yn ystod tymor yr Hydref blaenorol.”

 

Mae cynllun y campws yn rhan o weledigaeth ehangach i wella mynediad at wasanaethau iechyd a lles trwy ‘Fodel Gofal a Lles Integredig ym Mhowys’ newydd ac arloesol.   Amcanion y weledigaeth yma yw sicrhau fod trigolion Powys yn derbyn gofal a lles di-dor cyd gysylltiedig ar yr amser cywir, yn y man cywir sy’n cwrdd â’u hanghenion yn y cartref, y gymuned, neu ledled Powys. 

 

I wybod mwy am y Model Gofal a Lles Integredig ym Mhowys ac am y cynlluniau ar gyfer campws y Drenewydd ewch i Lles Gogledd Powys (powyswellbeing.wales)

bottom of page