top of page
NPWB Facebook Cover (1).png

Rhaglen Lles Gogledd Powys

O dan Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys (BPRP) rydym yn gweithio gyda'n gilydd i fwrw ymlaen â chyfle unwaith mewn cenhedlaeth i drawsnewid gwasanaethau yng ngogledd Powys. Mae gennym lefel uchel o uchelgais i wella gwasanaethau iechyd a lles trwy fodel gofal newydd fel y nodir yn ein Strategaeth Iechyd a Gofal a gymeradwywyd ym mis Ebrill 2018.

​

Ym mis Mai 2019, derbyniodd y BPRP £2.5 miliwn o gyllid gan Gronfa Trawsnewid Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng ngogledd Powys a'n cefnogi i ddatblygu ein huchelgeisiau.

Ein cylchlythyr

Eisiau darganfod y datblygiadau diweddaraf gyda Rhaglen Lles Gogledd Powys? Yna beth am lawrlwytho ein cylchlythyr isod?

Summer 2023          Haf  2023

EIN NOD

Nod Rhaglen Lles Gogledd Powys yw canolbwyntio ar les; hyrwyddo cymorth a chefnogaeth gynnar trwy allu darparu technoleg sy'n eich helpu i fyw gartref; mynd i'r afael ag achosion mwyaf afiechyd a lles gwael; a sicrhau gofal cydgysylltiedig sy'n cynnwys timau cymdogaeth a chymunedau yn gweithio gyda'i gilydd fel bod gennych wasanaeth mwy di-dor pan fydd ei angen arnoch.

Trawsnewid iechyd a lles

Yn ogystal â thrawsnewid gwasanaethau iechyd a lles drwy fodel newydd o ofal a lles, mae cyfle unwaith mewn oes i greu Campws Iechyd a Lles Amlasiantaethol yng nghanol y Drenewydd. Gallai hwn fod y campws rhyng-genhedlaeth cyntaf ym Mhowys, a gallai gynnwys addysg gynradd, iechyd, gofal cymdeithasol a llety â chymorth.

 

Mae'r safle a ffefrir ar gyfer y campws wrth ymyl Stryd y Parc, Y Drenewydd. Ymhlith y gwasanaethau sydd ar y safle ar hyn o bryd mae Canolfan Ddydd y Parc, Canolfan Integredig y Drenewydd (adeilad Ysgol Dafydd Llwyd gynt), y llyfrgell ac Ysgol Calon y Dderwen.

 

Ar y safle hwn, rydym yn cynllunio ar gyfer ysbyty newydd o'r radd flaenaf (gan ddisodli'r cyfleusterau presennol yn Ysbyty Sir Drefaldwyn ac sy'n cynnwys trydedd Ganolfan Ranbarthol Wledig ar gyfer y sir) adeilad ysgol newydd, Academi Iechyd a Gofal, llyfrgelloedd cyhoeddus ac academaidd yn ogystal ag ardal lles dan do ac yn yr awyr agored a rhywfaint o lety â chymorth.  

​​

Mae'r Rhaglen Lles Gogledd Powys ar hyn o bryd yn y cyfnod cynllunio a gweledigaeth gynnar. Bydd gweledigaeth glir o sut y gallai'r model gofal newydd hwn edrych gartref ac yn ein cymunedau yn cael ei siapio gan bobl gogledd Powys trwy gyd-gynhyrchu; gwneud gyda, nid ar gyfer. Wrth i'r rhaglen fynd yn ei blaen, byddwn yn dechrau diffinio'n fanylach pa wasanaethau iechyd a gofal a ddarperir o'r tu mewn i'r campws.

Contact
IMG_6788.JPG

Cysylltwch â ni…

Lles Gogledd Powys

TÅ· Ladywell, Llawr Cyntaf, 1.13

Y Drenewydd

Powys

Ebost; powyswellbeing.north@wales.nhs.uk

 

Success! Message received.

NorthPowys_Logo.png
Gweithio gyda’n gilydd ar ran…
PHSCRPB_Logo_PRPB_web.jpg
WG_positive.jpg
Sefydliadau Partner
PCC_logo.png
PTHB CMYK LOGO.jpg
bottom of page