top of page

DULL CYMUNEDOL

Bydd Hybiau Lles Cymunedol yn darparu man lle gall gwahanol bartneriaid lleol mewn cymdogaeth ddod at ei gilydd a mynd i'r afael â'r materion sy’n bwysicaf iddynt.

 

Gall Hybiau Lles Cymunedol ddarparu gwasanaethau i'r gymuned, ond hefyd gan y gymuned.

LOGO_final_Horizontal-3.png

"Ein blaenoriaeth uchaf yw sicrhau bod gan drigolion gogledd Powys fynediad i'r gwasanaethau iechyd a gofal cywir ar yr adeg iawn, lle bynnag y bo hynny'n bosibl." Carol Shillabeer, Chief Executive PTHB

 

 

 

Rhan greiddiol o les unigolion a chymuned yw'r teimlad o fod yn gysylltiedig ag eraill a chael pwrpas ystyrlon. Gall gwledigrwydd Powys golygu fod pobl yn cael eu hynysu'n gymdeithasol.

 

Mae tystiolaeth yn dangos bod cysylltiad clir rhwng unigrwydd ac iechyd meddwl a chorfforol gwael ac y gall ymyriadau penodol fel ymarfer corff, gweithgareddau grŵp a gwirfoddoli lleihau arwahanrwydd cymdeithasol a hyrwyddo lles meddyliol. Gall teimlo'n gysylltiedig wella boddhad â bywyd gan gynnwys mwy o wytnwch yn emosiynol ac yn gorfforol.

Chair.jpg
cafe.jpg

Mae'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a'r Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, yn nodi'r angen i roi pobl mewn rheolaeth trwy gryfhau cyfranogiad unigolion a chymunedau trwy lais a rheolaeth mewn iechyd a gofal, a sicrhau bod gan bob oedran a chymuned cyfle cyfartal i gymryd rhan.

 

Mae angen cefnogi hyn trwy fodel gofal sy'n galluogi perthynas gyfartal rhwng pobl a gweithwyr proffesiynol ac i bobl wneud penderfyniadau gwybodus yn seiliedig ar y dewisiadau sydd ar gael iddynt.

Mae yna gymunedau cryf a gwydn ym Mhowys. Mae cyfleoedd i adeiladu ar y cryfderau hyn i wella llesiant yn y dyfodol trwy wasanaethau rhyng-genhedlaeth, sy'n cael eu harwain gan y gymuned a/ neu’n statudol. Mae hyn yn cynnwys adeiladu ar gryfder gallu a gwirfoddolwyr y Trydydd Sector, a gwerthuso meysydd arfer da fel cysylltwyr cymunedol a gwasanaethau cymorth cartref i wireddu'r buddion posibl ledled Powys.

bottom of page