top of page

CANOLFAN RANBARTHOL

Yn ogystal â thrawsnewid gwasanaethau iechyd a lles trwy fodel gofal newydd, mae'n gyfle unwaith mewn oes i greu Campws Lles Amlasiantaethol yng nghanol Y Drenewydd.

 

Gallai hwn fod y campws rhyng-genhedlaeth cyntaf ar gyfer Powys, a gallai gynnwys addysg gynradd, iechyd, gofal cymdeithasol a llety â chymorth.

LOGO_final_Horizontal-3.png

"Credwn y gallwn greu prosiect arloesol a fydd yn sicrhau ystod o fuddion i bobl o bob oed."

Cllr Myfanwy Alexander, Cabinet Member for Adult Social Care

 

Mae'r safle a ffafrir ar gyfer y campws yn gyfagos i Stryd y Parc, Y Drenewydd. Ymhlith y gwasanaethau sydd ar y safle ar hyn o bryd mae Canolfan Dydd y Parc, gwasanaethau iechyd Canolfan Teulu Integredig Y Drenewydd (Ysgol Dafydd Llwyd gynt) a dwy ysgol gynradd, Ysgol Hafren a Ladywell Green.

​

Ar y safle hwn, gallai fod datblygiad pellach o Ganolfan Ranbarthol Wledig o'r radd flaenaf y gellid ei chydleoli wrth ymyl rhai llety byw â chymorth, gwell cyfleusterau ysgol, yn ogystal â Hwb Lles Cymunedol a allai fod yn rhan o rwydwaith o Hybiau Lles Cymunedol eraill ar draws gogledd Powys.

Bydd y Ganolfan Ranbarthol Wledig yn cysylltu â Hybiau Lles Cymunedol ac o bosibl â phobl yn eu cartref. Bydd yn rhoi cyfle inni ddarparu mwy o wasanaethau yn lleol ym Mhowys a ddarperir ar hyn o bryd tu allan i Bowys, er enghraifft, gallai hyn gynnwys rhywfaint o ofal cyn ac ar ôl llawdriniaeth, gweithdrefnau achosion dydd, diagnosteg, cleifion allanol a gwasanaethau adsefydlu.

bottom of page