STRATEGAETH AR GYFER Y DYFODOL
Mae’r model gofal a lles integredig
newydd hwn yn gyfle unwaith mewn oes i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal ar gyfer poblogaeth canol cefn gwlad Cymru, yn ogystal â manteisio ar y cyfleoedd ar gyfer datblygiadau digidol y mae COVID-19 wedi’u cyflwyno, a
gwneud hynny’n gyflymach.
Mae’r model hefyd yn rhan o ymateb Cymru gyfan i’r cynnydd yn y galw a’r heriau newydd sy’n
wynebu’r GIG a gofal cymdeithasol. Ymhlith
y rhain mae poblogaeth sy’n heneiddio, newidiadau i ffordd o fyw, disgwyliadau’r cyhoedd a thechnolegau meddygol newydd..
MODEL GOFAL A LLES INTEGREDIG YM MHOWYS
Ym mis Mehefin 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘Cymru Iachach: Ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol’. Uchelgais Cymru Iachach yw i’r systemau iechyd a gofal cymdeithasol weithio gyda’i gilydd er mwyn helpu pobl i fyw’n dda yn eu cymunedau, diwallu eu hanghenion iechyd a gofal yn effeithiol a darparu mwy o wasanaethau yn agosach at y cartref neu yn y cartref, fel mai dim ond i gael triniaeth na all gael ei rhoi’n
ddiogel yn unman arall y bydd angen i bobl ddefnyddio ysbyty.
Mae’r model gofal a lles integredig newydd yn rhan o Strategaeth Iechyd a Gofal cyffredinol Powys. Gwnaethom ofyn i gymunedau lleol yng ngogledd Powys a phobl sy’n darparu gwasanaethau yn y sir a’r tu allan iddi ddweud wrthym beth sy’n gweithio’n dda nawr a beth y gellid ei wella yn y dyfodol. Er mwyn helpu i roi ffocws i’n sgyrsiau, gwnaethom ystyried y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau mewn
tair ffordd wahanol:
• Gartref ac yn y gymuned
• Ar lefel ardal neu ranbarth
• Ar lefel y sir neu’r tu allan i’r sir
Gwelsom fod pobl yn teimlo’n frwdfrydig am drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal yng ngogledd Powys, yn rhannol drwy ddarparu mwy o wasanaethau yn y sir, yn agosach at ble mae pobl yn byw. Wrth ddatblygu’r model gofal a lles, gwnaethom ofalu ein bod yn taro cydbwysedd rhwng uchelgais a realiti. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau newid ystyrlon, o fewn ffiniau’r hyn y mae’n realistig i ni allu ei gyflawni. Wrth i ni ddatblygu cynlluniau gweithredu manylach,
byddwn yn profi ein gallu i gyflawni’r model newydd, yn parhau i rannu gwybodaeth, yn gofyn am adborth ac yn esbonio’r rhesymau dros ein penderfyniadau.
DARLLENWCH Y FERSIWN LLAWN YMA
DARLLENWCH CRYNODEB YMA
LAWRLWYTHWCH LEAFLET YMA
Os ydych yn byw ym Mhowys, gofynnwn i chi wneud y canlynol:
Defnyddio technoleg
ddigidol, fel teleofal, teleiechyd
a chymhorthion cyfathrebu, i’ch helpu i fod yn annibynnol a chael gofal ar yradeg gywir.
Cymryd camau i gynnal
iechyd a lles da, gan gynnwys
dilyn ffordd iach o fyw, ystyried cyngor ar iechyd y cyhoedd a mathau eraill o gyngor, dysgu am eich cyflwr, hunanatgyfeirio, cael
profion sgrinio a defnyddio apiau digidol pan fyddwch yn teimlo’n gyfforddus yn gwneud hynny.
Cefnogi gweithgareddau sy’n helpu pobl i deimlo’n rhan o’u cymuned a’u bod yn rhan o benderfyniadau am yr hyn sydd o bwys iddynt.
Gofalu am eich
iechyd a’ch lles
eich hun a bod yn
arbenigwr wrth
reoli eich gofal
eich hun.
Bod yn bartner cyfartal
yn y penderfyniadau
a gaiff eu gwneud am
eich gofal a’ch cymorth.
Bod yn hyrwyddwr er
mwyn helpu i ddatblygu
hybiau cymunedol
integredig sy’n dwyn pobl
a chymunedau ynghyd.
Gweithio gyda darparwyr
iechyd a gofal cymdeithasol mewn ffordd hyblyg er mwyn eu helpu i wneud y gorau o adnoddau cyfyngedig er budd pawb.